Sgorwyr i Nefyn United: Dylan Sion Jones (Noddwyd gan Ian Ambrose LTD) Carl 'Cacan' Jones (Noddwyd gan John Gwyn Peintar) Adroddiad y gêm/match report- 30 mlynedd yn ôl roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ddiwethaf, cyn dychwelyd yno eleni yr wythnos yma. Yr adeg hynny roedd yna grŵp pop Cymraeg poblogaidd iawn ar y pryd o’r enw Tynal Tywyll. Roedd y grŵp yma yn deillio o Fethesda, sef gwrthwynebwyr cyntaf Nefyn yng Nghyngrair Gwynedd eleni. Yr unig beth, roedd chwarae heddiw yn fwy fel chwarae mewn ‘Tynal Gwynt’ gyda gwynt cryf iawn yn ei gwneud hi’n anodd iawn i gael patrwm a reolaeth i’r gêm. Aeth Nefyn ar y blaen ar ôl hanner awr wrth i Dylan Sion sgorio o’r smotyn unwaith eto yr wythnos yma. Fe ddaeth y gic o’r smotyn yn dilyn i Ifan Gwilym daro’r ongl o’r traws a’r postyn, ac yna Guto Sion yn cael ei lorio wrth i Fethesda geisio delio hefo’r bêl oedd wedi adlamu allan. Fe weithiodd Nefyn yn galed i geisio ymestyn y fantais gyda cymorth y gwynt cyn hanner amser, ond 1-0 oedd hi ar yr egwyl. Tro Bethesda oedd hi i geisio manteisio ar y ‘Tynal Gwynt’ yn yr ail hanner. Os rhywbeth er fod Bethesda yn pwyso, a gorfodi Dafydd Jones i wneud arbediad gwych yng ngornel uchaf dde o’r gôl, roedd Nefyn yn cael llwyddiant wrth chwarae pêl droed yn erbyn y gwynt. Gwobrwyd hyn ar ôl 58 munud wrth Carl Jones y cyd reolwr dorri i mewn i’r blwch cosbi a ffendio ochr i fewn y rhwyd gyda ergyd gelfydd a’i droed chwith. Yna, reit ar ddiwedd y gêm sicrhawyd y 3 pwynt cyntaf o’r tymor wrth i Carl Jones sgorio ei ail o’r gêm. Diolch i Bethesda am gêm gystadleuol a chwaraewyd mewn ysbryd da. Felly yn dilyn gêm mewn ‘tynal gwynt’, a’i tybed goleuni ar ddiwedd y twnel sydd yna i Nefyn? Amser a ddengys. Ymlaen nawr i Lanystumdwy nos Lun
2 views
Keep up-to-date with our exclusive email newsletters.
Subscribe