League videos

Llanystumdwy 0-4 Nefyn United

Sgôr Terfynol/Final Score Llanystumdwy 0-4 Nefyn United Tomos Jones ⚽️ (Ian Ambrose Ltd) Carl Jones ⚽️⚽️⚽️ (John Gwyn Peintar) ⭐ Seren y gêm/man of the match-Carl Jones Dyma fo'r adroddiad o'r gêm neithiwr. Match report of last night's game???. CADW MOMENTWM - Dyma’r dasg i’r Penwaig ym Mharc Dwyfor, Llanystumdwy neithiwr. Yn wir, o flaen torf dda, dyma wnaethpwyd gyda buddugoliaeth o 4 gôl i 0. Setlwyd unrhyw nerfau gyda gôl gynnar gan Carl Jones (noddwydd gan John Gwyn jones peintar) ar ol 6 munud. Gyda Nefyn yn parhau i bwyso dilynodd ail gôl gan y cyd reolwr ar ol 11 munud. Roedd Nefyn yn ymosod yn dda, gyda ton ar ol ton o grysau coch yn carlamu ymlaen yn ceisio rhoi’r canlyniad tu hwnt i unrhyw amheuaeth yn gynnar. Efallai byddai ambell un yn disgwyl i’r llifddorau agor yn dilyn hyn, ond ni ddigwyddodd hynny. Roedd Llan yn brwydro am pob pêl ac yn raddol yn cael eu dannedd i fewn i’r gêm. Yn draddodiadol, mae unrhyw dîm sy’n ymweld a Parc Dwyfor yn mynd adref yn gwybod eu bod wedi bod mewn gêm, a dyma cafwyd eto am weddill yr hanner. Yn aml, mae’r 3ydd gôl mewn unrhyw gem yn holl bwysig. Gall fod y gwahaniaeth rhwng sgôr eithaf cyfforddus o 3-0 neu sgôr trwch papur o 2-1. Ond ni chafodd Nefyn y cysur yma hyd nes yr ail hanner. 19 munud i fewn i’r ail hanner anadlodd Nefyn yn fwy rhwydd wrth i Carl Jones ymuno a rhestr o chwaraewyr megis Ronaldo, Platini, Fowler a Hasselbaink drwy sgorio beth a elwir yn ‘hat trick’ perffaith. Troed dde, troed chwith ac yna cwblhau pethau gyda peniad grymus i’r gôl. Set o goliau i’w trysori. 3 munud yn ddiweddarach rhoddwyd y gêm allan o unrhyw amheuaeth. Tomos Llywelyn (noddwyd gan Ian Ambrose Ltd )ar ochr y blwch cosbi, yn rheoli’r bêl yn euraidd gyda’i droed chwith gan wthio’r bêl yn berffaith i’w droed dde mewn un symudiad, cyn ei phasio yn union i fan gwag yng nhôl Llanystumdwy. Cadw’r momentwm i fynd yw’r dasg eto dydd Sadwrn yng Nghaerwys yn Nhlws yr FAW. Cystadleuaeth gwahanol, mewn ardal gwahanol ond y nod fydd cael canlyniad tebyg eto. Dwy gêm, saith wedi eu sgorio, dim un wedi ei ildio, o bydded i’r momentwm barhau. Cofiwch bod lle ar ôl o hyd i unrhyw un allan o’r criw mawr ddaeth i gefnogi yn Llanystumdwy ddod ar y bws i Gaerwys. Bws i gychwyn am ‪10:30‬ o’r groes yn Nefyn. Cysylltwch os oes diddordeb.

2 views

Most Popular Videos

The Cynghrair Peldroed Gwynedd Football League newsletter

Keep up-to-date with our exclusive email newsletters.

Subscribe